Lleoliad:
O bell drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Ionawr 2022
Amser:
09.30 -
14.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12579
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Mike Hedges AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Judith Paget, Llywodraeth Cymru Claire Bennett, Llywodraeth Cymru Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Steve Elliot, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Irfon Rees, Llywodraeth Cymru Sue Hill, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr Jonathon Holmes, The King's Fund Danielle Jefferies, The King's Fund |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Claire Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
2.2 Llongyfarchodd y Cadeirydd Albert Heaney ar ddod yn Gadlywydd
Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) am wasanaethau i ofal
cymdeithasol yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ar gyfer
2022.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-05-1045: Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol
3.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.3 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch amseroedd aros
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd ynghylch amseroedd aros
3.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Fframweithiau Cyffredin dros dro ar gyfer Organau, Meinweoedd a Chelloedd ac ar gyfer Ansawdd a Diogelwch Gwaed
3.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.6 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch yr Adroddiad Cyntaf ar Weithredu'r Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol
3.6 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.7 Llythyr dilynol gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch y DU/y Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol
3.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr dilynol.
3.8 Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd ynghylch Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 ledled y DU
3.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.8 (a) Nododd Rhun ap Iorwerth y llythyr a gofynnodd a allai’r Pwyllgor ei drafod yn ystod eitem 6. Cytunodd y Cadeirydd.
3.9 Llythyr gan y Cadeirydd at Emrys Elias, Cadeirydd Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch y sesiwn graffu ar ôl penodi ar 4 Tachwedd 2021
3.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.10Ymateb gan y Cadeirydd at Emrys Elias, Cadeirydd Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch y sesiwn graffu ar ôl penodi ar 4 Tachwedd 2021
3.10 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.11Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y broses benodi gyhoeddus
3.11 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.12Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y broses benodi gyhoeddus
3.12 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
3.13Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd mewn perthynas â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru
3.13 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.14Llythyr gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru gyda chwestiynau dilynol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 4 Tachwedd 2021
3.14 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.15Llythyr gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
3.15 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.16Llythyr gan Unsain at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
3.16 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.17Llythyr gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
3.17 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.18Llythyr gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru at y Cadeirydd ynghylch y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
3.18 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.19Llythyr gan y Llywydd at Gadeiryddion Pwyllgorau’r Senedd ynghylch amserlen Busnes Pwyllgorau’r Senedd
3.19 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 7 a 9 cyfarfod heddiw
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: trafod y dystiolaeth
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nododd feysydd ac argymhellion i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft.
6 Blaenraglen Waith
6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod pa fusnes i'w gynnal ar 10 Mawrth a chytunwyd i ddychwelyd at y drafodaeth yn y cyfarfod nesaf.
6.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ddychwelyd at y drafodaeth ar ei flaenraglen waith ar
gyfer tymor yr hydref yn ddiweddarach.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio penderfyniad o ran a ddylid
ystyried y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus y DI
i COVID hyd nes y byddai rhagor o wybodaeth ar gael, ac anfon ateb
cwrteisi at y Prif Weinidog yn y cyfamser.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau: trafod y dull
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai swyddogion yn siarad ar wahân ag Aelodau a oedd am awgrymu rhanddeiliaid ychwanegol y dylid ceisio tystiolaeth ysgrifenedig ganddynt.
8 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth: sesiwn dystiolaeth gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr a The King’s Fund
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o The King’s Fund a Choleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr.
8.2 Cytunodd Jonathon Holmes – Cynghorydd Polisi, The King’s Fund – i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ar yr ystod o debygolrwydd y byddai pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn Lloegr yn aros yn hirach am driniaeth na phobl sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig.
8.3 Cytunodd Sue Hill – Cyfarwyddwr Dros Dro yng Nghymru, Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr – i ddarparu manylion am nifer y swyddi llawfeddygol gwag fel cyfran o'r gweithlu llawfeddygol yng Nghymru ac yn Lloegr.
9 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth: trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.